NativeHQ yn ehangu ei raglen arloesol Craffu ar y Cyfryngau Cymdeithasol yn y Celfyddydau

ysgol-y-canolfan

Ar ben to Canolfan y Mileniwm, Caerdydd

Os ydych chi’n rhedeg sefydliad celfyddydol sy’n eisiau defnyddio cyfryngau digidol yn fwy call, dyma gofnod blog i chi. Darllenwch am fanylion ar sut gallai NativeHQ eich helpu, trwy’r rhaglen Craffu ar y Cyfryngau Cymdeithasol yn y Celfyddydau.

Trwy ddefnydd doeth o’r cyfryngau cymdeithasol mae potensial i newid posibiliadau i sefydliadau celfyddydol i gysylltu â chynulleidfaoedd, cymunedau, staff a phobl allweddol. Yr her yw bod yn gywir i’r cyd-destun celfyddydol penodol. Mae’n llawer fwy na gwella eich gweithgareddau hyrwyddo a gwerthu mwy o docynnau.

Mae pob sefydliad yn wynebu heriau:

  • Sut allwn ni wneud mwy ar lai o nawdd cyhoeddus?
  • Sut allwn ni cyd-greu a chyd-gynhyrchu gwaith newydd gyda chynulleidfaoedd?
  • Sut allwn ni hybu dealltwriaeth well o’n cwmni er mwyn i ni recriwtio mwy o wirfoddolwyr neu helpu i godi arian er mwyn sicrhau ein dyfodol?
  • Sut allen ni brofi model busnes newydd yn y ffordd gyflymaf a rhataf?

Dylunwyd Craffu ar y Cyfryngau Cymdeithasol: Celfyddydau i helpu’ch sefydliad celfyddydol ddatblygu’r ddealltwriaeth a sgiliau sydd fwyaf perthnasol i’ch tîm.

Mae NativeHQ yn gallu helpu’ch cwmni i wneud celf fwy ystyrlon; cyrraedd cynulleidfaoedd a chyfranogwyr newydd; a chynnal y cwmni drwy fodelau newydd neu gynhyrchu mwy o incwm trwy ffynonellau newydd fel ariannu torfol.

“Daeth Craffu ar y Cyfryngau Cymdeithasol: Celfyddydau ar yr amser addas i Hijinx. Roedden ni mewn cyfnod o newid fel cwmni, felly roedd hi’n amser da i stopio a myfyrio ynglŷn â phwy ydyn ni, beth rydyn ni’n ei wneud, a sut allai cyfryngau digidol a chymdeithasol ein helpu ar lefel sylfaenol. Mae NativeHQ wedi ein helpu i gymryd dull cyfrannol i gyfryngau digidol a chymdeithasol fel cwmni: i weld y potensial sydd gan ddigidol i wasanaethu cenhadaeth y cwmni, yn hytrach na bod yn rhan o’r strategaeth marchnata yn unig.”
Vanessa Morse, Theatr Hijinx

Rydym yn ysgrifennu atoch i ofyn os hoffech elwa o’n rhaglen ddatblygu Craffu ar y Cyfryngau Cymdeithasol: Celfyddydau. Mae’n ddrwg gennym nad oedd eich cwmni yn rhan o’r rhaglen beilot gyda Chyngor Celfyddydau Cymru – cafwyd ymateb mawr ac yn anffodus nid oedd modd cymryd mwy na pum sefydliad celfyddydol. Y newyddion da yw ein bod wedi cyflawni’r peilot ac mae’r adborth wedi bod yn bositif iawn.

Fel y cydweithiwr NativeHQ mwyaf newydd gallwn i gynnig fy arbenigedd mewn helpu sefydliadau celfyddydol i ymgymryd â datblygiad sefydliadol ac adolygiadau busnes ac arloesedd.

Bydd eich sefydliad celfyddydol yn gweithio gyda NativeHQ i ddatblygu a dilyn agenda pwrpasol i wella defnydd y sefydliad o gyfryngau cymdeithasol ar draws pynciau fel strategaeth, hyfforddiant, twf rhwydweithiol, ymgyrchoedd unigol, hysbysebu, cynhyrchu cynnwys digidol, monitro a gwerthuso.

Fyddan ni ddim yn rhedeg eich cyfrifon Facebook a Twitter drostoch chi, ond byddan ni’n eich addysgu sut i redeg a rheoli perthnasau cyfryngau cymdeithasol sy’n cefnogi eich anghenion celfyddydol a datblygu.

Bydd y rhaglen yn cynnwys y gweithgareddau canlynol:

  • 10 x sesiwn hanner diwrnod gyda NativeHQ dros gyfnod o bedwar i wyth mis (cytunwyd gyda chi ac yn dechrau pan fydd hi’n gyfleus i chi)
  • Rydym yn dechrau gyda phroses sy’n seiliedig ar ein Dull 4P ar gyfer datblygu cyfeiriad strategol ar gyfryngau cymdeithasol a blaenoriaethu syniadau menter. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan hyfforddiant a gwaith galluogi gyda chi.
  • Rhwng sesiynau, bydd y sefydliad a NativeHQ yn cytuno ar agenda ar gyfer y sesiynau nesaf
  • Bydd ein sesiwn olaf yn canolbwyntio ar ddatblygu cynlluniau parhaol sy’n ymwneud â chyfryngau cymdeithasol a metrigau llwyddiant.

Byddwn yn gofyn am:

  • Brwdfrydedd trwy’ch holl sefydliad am botensial o ddefnyddio rhwydweithiau digidol am waith datblygu. Byddai’n well gyda ni gynnwys aelodau eraill o’ch tîm yn ogystal â’ch tîm marchnata a chyfathrebu gan fod y gwaith yn wirioneddol holistaidd ac yn bwysig i bob agwedd o waith y cwmni.
  • Bore neu brynhawn wedi ei neilltuo er mwyn i staff gwrdd â NativeHQ yn rheolaidd
  • Dull agored, manwl ac arbrofol wrth ddysgu
  • Person penodol wedi ei enwi i fod yn gyfrifol am y rhaglen yn eich sefydliad
  • Awydd i gyfranogi mewn nifer cyfyngedig o weithgareddau ymchwil a datblygu a gwerthuso i helpu dysgu o fewn y rhaglen

Pan wnaethon ni dechrau ar Graffu ar y Cyfryngau Cymdeithasol: Celfyddydau o’n i ddim wedi rhagweld sut yn union y bydd y prosiect yn cyffwrdd ar bob agwedd o’n gwaith. Yn hytrach na chyngor ysgafn cyffredinol ar beth i’w gwneud / peidio gwneud ar gyfryngau cymdeithasol, aeth y prosiect yn ddyfnach ac roedd angen i ni ddad-bacio pwy ydyn ni, sut yr ydyn yn gwneud pethau a sut yr ydyn eisiau bod a gwneud. Roedd e wedi cael ei deilwra ac yn cynnwys sgiliau ac anghenion pawb yn ogystal ag anghenion sefydliadol.

O ganlyniad i’r rhaglen, rydym yn rheoli ein prosiectau; cyfathrebu o fewn y tîm; rheoli ein hamser; marchnata ein hunain, creu a golygu ffilmiau ac wrth gwrs, defnyddio cyfryngau cymdeithas yn well nag o’r blaen!”
Amanda Griffkin, Dawns Powys

Os ydych chi eisiau bwcio NativeHQ am y rhaglen arloesol hon, neu am brosiect cyfryngau cymdeithasol penodol yr ydych yn ystyried, byddwn i’n hapus i ddod i gwrdd â chi.

Gallwn i ddarparu rhagor o fanylion am y rhaglen gan gynnwys datblygu busnes a sefydliadol ehangach, ein costau, sut yr ydym yn gallu’ch helpu i sicrhau cyllid ychwanegol (os oes angen), ac yn hollbwysig, i wneud yn siŵr ein bod ni’n dyfeisio rhaglen sy’n diwallu eich anghenion a chynlluniau.

E-bostiwch richie@nativehq.com neu ffoniwch 07870 569316 am drafodaeth am y rhaglen.