Company of Angels ydy cwmni theatr yn Llundain, Lloegr sydd yn cynhyrchu dramâu am ac i bobl ifanc. Derbyniais alwad ffôn oddi wrthynt ychydig fisoedd yn ôl yn gofyn os allai NativeHQ adeiladu gwefan ar gyfer Theatre Café, gŵyl ar draws Ewrop lle mae testunau newydd a’i cyfieithiadau yn cael eu perfformio sgript-mewn-llaw.
Mae’r wefan bellach yn fyw ar www.theatrecafe.eu.
Roedd sawl amcan ar gyfer y wefan. Roedd rhaid iddi hi barhau am flynyddoedd i ddod a bod yn ddigon estynadwy er mwyn gwasanaethu digwyddiadau yn Leeds, Berlin, Frankfurt ac Amsterdam yn 2014 a 2015 yn ogystal â digwyddiadau wedyn. Digwyddiad ydy cyfle i unrhyw un i ragweld gwaith dramodwyr a chyfieithwyr newydd. Mae ymarferwyr theatr yn ei ddefnyddio er mwyn canfod cyd-weithwyr a thestunau ar gyfer cynhyrchiadau yn y dyfodol. Felly roedd calendr o ddigwyddiadau yn hanfodol. Y nodwedd fwyaf trawiadol efallai yw’r Llyfrgell Destunau ar gyfer pori’r sgriptiau sydd ar gael, sy’n chwiliadwy ar sail teitl, gwlad, ieithoedd sydd ar gael a nifer o aelodau o’r cast. Yn ogystal roedd rhaid i ni gynnig y rhyngwyneb mewn pedair iaith: Saesneg, Almaeneg, Iseldireg a Norwyeg ond mae amrywiaeth ehangach o ieithoedd yn y testunau.
Fel llawer o ein prosiectau adeiladwyd gwefan Theatre Café yn WordPress sydd dal yn ddibynadwy a hygyrch fel system rheoli cynnwys sy’n ddigon galluog i ddarparu’r nodweddion arferol yma. Mae’n bwysig bod y client yn cadw’r rhyddid i gynnal a chadw’r wefan yn y dyfodol mewn unrhyw ffordd maent yn ei ddewis, heb ffioedd trwydded meddalwedd. Gall ddweud taw hynny yw’r egwyddor ‘Os ydych chi’n caru rhywun gadewch iddo fod yn rhydd’ yn y maes meddalwedd rydd a chod agored.
Os ydych chi’n pendroni sut wnaethon ni adeiladu’r Llyfrgell Destunau, mae hi’n defnyddio mathau o gofnodion wedi’i addasu (byddai term gwell yn handi) – nodwedd WordPress defnyddio pan mae cofnodion neu dudalennau yn anaddas. Ar y bwrdd gwaith mae mathau penodol o gofnod ar gyfer testunau ac awduron. Gall weld unrhyw destun penodol. Fel arall mae’r Llyfrgell, awdur neu iaith yn cael ei rendro yn awtomatig i’r ymwelydd yn ôl templed ar sail meini prawf chwilio a dewis iaith ryngwyneb. Rydym yn hapus iawn gyda’r canlyniad ac eisiau cydnabod Marc Heatley Design am bartneru gyda NativeHQ ar y prosiect anarferol hwn.