Rydyn ni’n rhedeg cwrs byr newydd “Busnes y Cyfryngau Cymdeithasol” yng Nghaernarfon gyda Cyfle. Manylion isod.
Dyddiadau: 26+27 o Orffennaf 2011
Lleoliad: Canolfan Hyfforddi Cyfle, Galeri, Caernarfon
Tiwtor: Carl Morris, NativeHQ
Cost: £250+TAW
Cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg fydd hwn
Mae nifer o fusnesau bellach yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn creu perthnasau ymglymol gyda pobl a marchnadoedd, cysylltu am gynnyrch, cynnig bargeinion arbennig, datblygu ffyddlondeb cwsmer ac i ymateb i gwestiynnau a thrafodaethau am eu brand.
- Sut mae modd i chi ddefnyddio teclynnau’r cyfryngau digidol er mwyn cyrraedd yr amcanion busnes yma?
- Sut gall y cyfryngau digidol gael ei ddefnyddio er mwyn annog creadigrwydd, taclo problemau, galluogi cydweithredu, datblygu cynulleidfaoedd ac adrodd straeon?
- Pa declynnau sy’n addas ar gyfer eich gwaith chi a beth mae’n nhw’n ei wneud?
- Sut wyt ti’n mynd o gofrestru i gael cyfri ar declyn arlein i’w ddefnyddio’n effeithol ar brosiect go iawn?
Bydd y cyfranogwyr yn cael y cyfle i archwilio’r cwestiynnau yma a chael profiad ymarferol ar lwyfannau sy’n boblogaidd ar hyn o bryd.
Pwy ddylai fynychu?
Unigolion sy’n gweithio mewn marchnata, hyrwyddo neu datblygu busnesau bychan a mawrion yn ogystal a sefydliadau.
Cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg yw hwn. Cysylltwch â ni os fasai’n well gennych ddilyn y cwrs yn y Saesneg.
Do you know anyone who would like to learn about the business of social media and learn through the medium of Welsh? This is about a social media course run by NativeHQ and Cyfle in Caernarfon. Get in touch if you need more info particularly if you’d be interested in enrolling on the same course. We are planning to run it again in English and in Welsh.