Busnes y Cyfryngau Cymdeithasol – cwrs byr gyda Cyfle

Blog post available in English

Mae Cyfle wedi ein gwahodd eto i redeg ein cwrs 2-diwrnod, Busnes y Cyfryngau Cymdeithasol eto yng Nghaernarfon a Chaerdydd.

Pwy
Unigolion sy’n gweithio mewn marchnata, hyrwyddo neu datblygu busnesau bychan a mawrion yn ogystal a sefydliadau.

Pryd
Caernarfon (Cymraeg) 17/18 Hydref
Caerdydd (Saesneg) 20/21 Hydref
Caerdydd (Cymraeg) 14/15 Tachwedd

Manylion

Mae nifer o fusnesau bellach yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn creu perthnasau ymglymol gyda pobl a marchnadoedd, cysylltu am gynnyrch, cynnig bargeinion arbennig, datblygu ffyddlondeb cwsmer ac i ymateb i gwestiynnau a thrafodaethau am eu brand.

  • Sut mae modd i chi ddefnyddio teclynnau’r cyfryngau digidol er mwyn cyrraedd yr amcanion busnes yma?
  • Sut gall y cyfryngau digidol gael ei ddefnyddio er mwyn annog creadigrwydd, taclo problemau, galluogi cydweithredu, datblygu cynulleidfaoedd ac adrodd straeon?
  • Pa declynnau sy’n addas ar gyfer eich gwaith chi a beth mae’n nhw’n ei wneud?
  • Sut wyt ti’n mynd o gofrestru i gael cyfri ar declyn arlein i’w ddefnyddio’n effeithol ar brosiect go iawn?

Bydd y cyfranogwyr yn cael y cyfle i archwilio’r cwestiynnau yma a chael profiad ymarferol ar lwyfannau sy’n boblogaidd ar hyn o bryd.

Archebu lle
I sicrhau lle ar gwrs neu i ofyn cwestiwn cysylltwch â caernarfon@cyfle.co.uk neu 01286 668003.