Er sylw pobl celfyddydol Cymru! Tair swydd gydag Ar Waith Ar Daith / Walk the Plank

Rydym yn chwilio am gyflwynydd, dylunydd a threfnydd taith ar gyfer prosiect mawr o’r enw Ar Waith Ar Daith, ar gyfer dathliadau dengmlwyddiant Canolfan Mileniwm Cymru yn ystod haf 2015.

Dyma gyfleoedd gwych i gymryd rhan mewn prosiect cyffrous; taith o gwmpas Cymru i ddarganfod yr ysbrydoliaeth a chelfyddyd y wlad, i’w rhannu o’r Ganolfan i’r wlad a’r byd.

Plîs anfonwch y manylion at unrhyw un sy’n addas am y swyddi.

Rydym ni yn NativeHQ yn falch o gael ein penodi fel artist digidol gan gynhyrchwyr cwmni Walk the Plank. Byddwn yn rhannu mwy am y profiad hwnnw trwy gofnodion sydd i ddod.

Yn y cyfamser, ewch i wefan Ar Waith Ar Daith am ragor o fanylion am y prosiect.