“Dyw ein teclynnau cymdeithasol ddim yn welliant i ein cymdeithas gyfredol, maent yn her iddi hi.” Clay Shirky
Ein meddylfryd
Rydym ni’n galluogi sefydliadau i weithio yn fwy peniog gyda theclynnau cyfathrebu newydd.
Mae sefydliadau yn feddwl am eu effaith ar sut maent yn gweithio, gwrando a siarad – mae risgau a chyfleoedd newydd sydd angen gweledigaeth, sgiliau, technolegau a dealltwriaeth i’w reoli.
Ers 2009 rydym ni’n arbenigo yn y cyfryngau cymdeithasol, felly nid atodiad i ein prif gwaith ydyn nhw. Rydym ni’n rhoi ffocws penodol ar sut maent yn cael effaith ar amrywiaeth eang o bynciau a chyd-destunau.
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn rhan o ecosystem cyfoethog o bwrpasau cyfathrebu felly rydym ni’n dod gyda dealltwriaeth cryf o arloesedd ym marchnata, cyfathrebu, adrodd straeon a chyd-weithrediad yn ein gwaith.
Ein dulliau
Ein prif amcan yw galluogi ein clientiaid i fod yn fwy peniog yn y ffordd maent yn gweithio gyda chyfryngau cymdeithasol.
Mae pob client yn wahanol, felly rydym ni’n dechrau trwy deall beth mae sefydliad yn trio cyflawni – eu modelau busnes ac amcanion cymdeithasol. Rydym ni’n trafod gweithredoedd yn y tymor hir a chamau nesaf sydd angen.
Fel arfer, mae brandiau eisiau rheoli eu sgyrsiau cyfryngau cymdeithasol eu hunain, felly ‘dynwaredwyr’ dydyn ni ddim. Rydym ni’n canolbwyntio ar alluogi clientiaid wrth datblygu eu strategaeth a gwella eu sgiliau trwy hyfforddiant.
Os oes angen allanoli, rydym ni’n darparu gwasanaethau ychwanegol fel cyflwyniadau a gweithdai, ymchwil a dadansoddiad, dyluniad aml-blatfform, datblygu gwe a chynhyrchiad cynnwys digidol.