The Trial gan Philip Glass: rhannu bywyd opera ar gyfryngau cymdeithasol

The Trial gan Philip Glass / Music Theatre Wales

Yn y misoedd diwethaf rydym wedi bod yn gweithio gyda Music Theatre Wales, y cwmni opera cyfoes, am y tro cyntaf. Ein nod ni oedd helpu datblygu defnydd arloesol o gyfryngau digidol gan y cwmni: datblygu cynulleidfaoedd, rhannu arferion y cwmni a chyfrannu at waith creadigol y cwmni. Rydym yn canolbwyntio ar gynhyrchiad cyfredol The Trial yn enwedig, addasiad newydd sydd ar daith gan y cyfansoddwr amlwg Philip Glass o’r nofel Franz Kafka.

Mae pob dau sefydliad yn wahanol ac ym maes cyfryngau cymdeithasol, mae pob dau strategaeth yn wahanol hefyd. Er bod gyda ni prosesau clir am daflu syniadau a datblygu mentrau dilys, does dim cynllun templed fel y cyfryw. Mae hynny yn wir yn y celfyddydau perfformio yn arbennig. Trwy weithio gyda phobl rydym eisiau dod â’r gorau o’n profiad yn NativeHQ tra bod yn agored i ddysgu a chyd-weithredu gyda nhw fel arbenigwyr yn eu maes nhw.

Sefydlwyd Music Theatre Wales yng Nghaerdydd yn 1988 o gydsoddiad dau gwmni gyda gwreiddiau ers 1982. Maent yn canolbwyntio ar opera cyfoes yn hytrach na’r canon o weithiau clasur. Ces i sawl moment agoriad llygaid wrth weithio gyda’r tîm. Efallai dylwn i ddweud moment agoriad clust. Un peth sydd wedi dod i’r amlwg yw’r pwysigrwydd cerddoriaeth i brofiad opera. Roedd bod yn ffan celf gyda mwy o chwilfrydedd na gwybodaeth am opera – ar y tu allan i ryw raddau – yn fantais mewn ffordd.

Mae ein gwaith gyda’r cwmni a’r cynhyrchiad wedi cynnwys dylunio a rhedeg sesiynau datblygu strategaeth, cyd-redeg y mentrau canlynol a hyfforddiant pwrpasol. Bydd y cyfan yn bennu gyda gwerthusiad o’r gweithgareddau hyn. Mae hi wedi bod yn galonogol iawn i weld sut mae defnydd y cwmni o gyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu ers i ni ddechrau. Mae hi wedi bod yn gyd-weithrediad rhwng pobl mewn meysydd sydd ddim yn dod at eu gilydd yn aml ac wedi dwyn ffrwyth. Yn y byd opera ar hyn o bryd mae hi’n gyfnod addawol gyda llawer o botensial i feistroli’r cyfryngau cymdeithasol.

O ran The Trial roedd sawl ffordd i fynd ati ac edrychon ni at nifer fawr o syniadau cyffroes, mwy nag sy’n bosib i’w gynnal ar yr adnoddiau ar gael. Rhan allweddol o’r gwaith oedd comisiynu cynhyrchydd cyfryngau cymdeithasol, Helen Griffiths, i ymchwilio bywyd y cynhyrchiad a chipio sgyrsiau ymhlith y cyfarwyddwr, cyfansoddwr, ysgrifennwr, perfformwyr, criw, tîm swyddfa a chynulleidfa. Roedd y sgyrsiau hyn yn delio gyda datblygiad creadigol y cynhyrchiad, y themau a godwyd gan y adroddiant, y gerddoriaeth a rhannu’r cast ac aelodau’r criw.

Er mwyn gwylio’r fideos a gynhyrchwyd gan Helen, mae’r rhestr YouTube yn fan cychwyn da.

Gallech wylio, gwrando a rhyngweithio gyda’r cynnwys eraill a gynhyrchwyd gan Helen trwy’r grid Storify o dan y cofnod hwn. Bydd mwy o gynnwys ar draws platfformau amrywiol yn ymddangos yn ystod y dyddiau nesaf.

Mae’r gwaith hwn wedi fy atgoffa bod hi’n bwysig i fod yn glir os yw gweithgaredd ar-lein yn hyrwyddo neu sgyrsiol (neu rywbeth arall efallai). Yn ein sesiynau datblygu gyda Helen a thîm Music Theatre Wales rydym wedi bod yn ofalus i wahaniaethu rhwng y ddau gategori o bwrpas. Treulion ni amser i helpu gydag ymgyrch hysbysebu ar Facebook er mwyn i dudalen Music Theatre Wales gyrraedd mwy o ffans trwy dargedu ar sail daearyddiaeth a diddordebau.

Ond mae’r rhan fwyaf o waith diddorol wedi bod yn y categori sgyrsiol ac rydym wedi dilyn egwyddorion o rannu ‘calon ac enaid’ y cwmni ac ysgogi sgyrsiau aml-ffordd go iawn. Rydym yn gobeithio eich bod yn mwynhau rhyngweithio gyda’r canlyniadau!