Taith o amgylch y cyfryngau cymdeithasol i gwmnïau cerddoriaeth

English version available

Mae’r nodiadau hyn yn cyd-fynd â’r cyflwyniad a roddais ar ddydd Gwener 25ed Medi 2009 yn Galeri, Caernarfon. Mae cyfieithiad PDF sydd ar gael.

Prif fyrdwn fy sgwrs oedd pa mor berthnasol y gallai cyfryngau cymdeithasol fod i gerddorion a chwmnïau cerddoriaeth. Dechreuais â chyd-destun diwylliannau arlein cyn trafod enghreifftiau o dechnolegau a gwasanaethau a sut y gellid eu defnyddio.

Cwestiynau yr ydym yn ceisio eu hateb:
Pam y dylai unrhyw un fod â diddordeb yn fy mand i?
Ble allaf i fynd i ddarganfod neu i ddatblygu cymunedau?
Pa offer all fy helpu i ddarganfod edmygwyr, ond hefyd i ddysgu sut i addasu fy musnes mewn awyrgylch sy’n newid?
Sut y dylwn i reoli’r amser a’r adnoddau ydw i’n eu rhoi yn fy ngweithgaredd arlein – i gael llogau da ar fy muddsoddiad?

Roedd amrywiaeth o gwmnïau yn bresennol, yn cynrychioli gwahanol genres. Roedd pawb yn gysylltiedig â cherddoriaeth, un ai ar ffurf ysgrifenwyr caneuon, artistiaid perfformio neu gatalog neu bob un o’r tri. Roedd rhai yn cael refeniw o sioeau ‘byw’, eraill o gryno ddisgiau, lawrlwythiadau a gwasanaethau tanysgrifio ac eraill o drwyddedu sync.

Am beth ydym ni’n sôn?

Dechreuodd y We Fyd-Eang ym 1990 ac mae’n datblygu drwy’r adeg. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae cyfranogiad a sgwrsio arlein wedi bod yn un thema bwysig.

“Mae cyfryngau cymdeithasol yn derm ambarél sy’n diffinio’r gwahanol weithgareddau sy’n integreiddio technoleg, rhyngweithio cymdeithasol a llunio testun, lluniau, fideos ac awdio.”

“Cyfryngau cymdeithasol yw pobl yn sgwrsio arlein.”

Metaffor yw sgyrsiau. Mae’r sgyrsiau yn digwydd y tu mewn a thu allan i gwmnïau neu hyd yn oed drwy firewall y cwmni – rhwng cwmnïau a’r byd tu allan. Sylwer: nid yw popeth yn y cyfryngau cymdeithasol yn ymwneud â ‘marchnata’. Mae cyfryngau cymdeithasol yn ymwneud ag edmygwyr, arbenigwyr, amaturiaid, cefnogwyr brwdfrydig ac ie, cwsmeriaid. Ond, at ei gilydd, pobl. Maen nhw’n trafod pob pwnc posibl, drwy gyfrwng fideo, testun, lluniau ac awdio.

Mae a wnelo cyfryngau cymdeithasol â llawer iawn mwy na safleoedd rhwydweithio cymdeithasol. Mae miloedd o leoedd arlein sydd wedi croesawu cyfryngau cymdeithasol. Enghraifft: adolygiadau defnyddiwyr Amazon, a hefyd Number10.gov.uk, a hyd yn oed gwefan cwmni os oes ganddo flog neu nodweddion cymdeithasol eraill, er enghraifft.

Twf

Mae twf enfawr wedi bod mewn mabwysiadu rhai cyfryngau cymdeithasol, e.e. Wikipedia, YouTube, blogiau, rhwydweithiau cymdeithasol a thanysgrifiadau i RSS. Treuliais rywfaint o amser yn trafod yr ystadegau, a hynny’n unig er mwyn tanlinellu’r twf hwn.

“Nid ffasiwn yw hyn. Mae’n newid sylfaenol yn y ffordd yr ydym yn cyfathrebu.”

Sylwadau ar ddiwylliant arlein

Cyn cychwyn ar unrhyw “ymgyrch” byddwch yn ymwybodol o ddiwylliannau arlein – dros y we gyfan a hefyd o fewn cymunedau unigol. Dyma rai o’r themâu cyffredin a welir yn aml. Nid yw hon yn rhestr lawn, dim ond themâu a welech yn gyffredinol.

Dynol

Lleisiau dynol naturiol, agored, onest, uniongyrchol sy’n gweithio orau. Nid y datganiad o fwriad, y pamffled neu’r sain ‘ffôn yn brysur’. Mae’r “llais corfforaethol” annaturiol yn edwino.
Mae pobl yn blino gwrando.

Darllenwch The Cluetrain Manifesto yn http://www.cluetrain.com

Fel canllaw cyffredinol os yw eich gwefan yn edrych fel pamffled statig mae’n debyg nad yw’n gwneud y defnydd gorau o’r hyn gall ‘arlein’ ei wneud.

Ailgymysgu

Mae ailgymysgu yn dangos ei bod yn bosibl addasu diwylliant. Yn gyffredinol ysgogir pobl yn reddfol i gyfranogi a bod yn greadigol.

Mae’n ysgogiad naturiol sydd wedi bodoli ers amser maith, yn arbennig mewn diwylliannau gwerin ac yn fwy diweddar mewn samplu. Gall fod yn haws mynegi drwy gyfryngau cymdeithasol nag ydoedd drwy gyfryngau traddodiadol, mae cyfryngau’n cael eu democrateiddio. Mae hyn yn amlwg yn cynnwys cerddoriaeth ond nid cerddoriaeth yn unig – popeth.

Mewn rhai ffyrdd mae’n gydnabyddiaeth o sut y mae syniadau wedi datblygu erioed.

e.e. Kutiman yn ailgymysgu YouTube http://www.thru-you.com
Sleeveface http://www.sleeveface.com
LOLcats http://icanhascheezburger.com
a memes arlein eraill.
Gallwn fynd ati i annog hyn, e.e. Radiohead yn rhyddhau rhannau’u o’u trac i’w ailgymysgu. Byddwch yn greadigol.

Darllenwch y llyfr “Remix” gan Lawrence Lessig

Rhannu

Yn y diwydiant cerddoriaeth, os ydw i’n dweud “rhannu” rydym ni’n meddwl yn syth am rannu cerddoriaeth heb drwydded. Byddai’n bosibl inni gael trafodaeth faith am hynny.

Ond yma roeddwn i eisiau pwysleisio natur fwy cyffredinol rhannu diwylliant – pobl yn rhannu newyddion, postio cysylltiadau, darganfod bandiau newydd (a hen fandiau). A hefyd wrth gwrs, rhannu profiadau, cyngor, cysylltiadau a gwersi drwy gyfrwng blogiau.

Mae’n ysgogiad dynol. Mae hyn yn digwydd fwyfwy mewn amser real hefyd. Gall pobl rannu yn gyflym iawn, weithiau drwy glicio “favourite“.

Fel cwmnïau cerddoriaeth, ydym ni’n rhoi pethau y gallant eu rhannu i bobl? Os nad ydym, sut ydym yn disgwyl i rywun ein darganfod arlein?

O ran argymelliadau mewn cerddoriaeth, yn aml rydym yn ymddiried mwy yn ein cyfeillion nag mewn adolygwyr.

Mae gan bawb yn yr ystafell rywbeth y gallant ei rannu.

Byddwch yn greadigol.

Byddwch yn ddiddorol.

Syniad: beth am holi eich cymuned o edmygwyr a oes ganddynt ffotograffau archif a fideos eu hunain o’ch artistiaid? Efallai y byddent yn ddiolchgar o gael eu cydnabod a chael cysylltiadau yn ôl.

Peidiwch ag ofni rhannu pethau arbenigol os dyna ydych chi’n ei wneud. Mae’r we yn ddigon mawr.

Os yw pethau’n cael eu tagio a’u henwi’n gywir gellir dod o hyd iddynt. Mae’n ddefnyddiol os oes gan bob eitem ei URL arbennig ei hun. Mae pethau’n bodoli dros y we, ar wahanol wasanaethau. Ond yn achos eich gwefan eich hun, os oes angen gwaith ailstrwythuro sylweddol i ganiatáu cysylltiadau dyfnach, gallai fod yn werth yr ymdrech.

Yn sicr, rhannwch eitemau o’ch ôl-gatalog, mae pobl yn barod i’w ddarganfod heddiw. Mae gan rai o’r bobl sydd yn yr ystafell werth degawdau o ddeunydd ardderchog!

Diwylliant agor

Mae hyn yn gysylltiedig â rhannu a hefyd â’r llais dynol. Mae tueddiad i fod yn onest arlein. Os ydych chi’n onest, bydd pobl o’r un anian â chi yn eich darganfod. A byddant yn sgwrsio’n ôl hefyd.

Enghreifftiau o fyd y cwmnïau cerddoriaeth – byddai’r rhan fwyaf o edmygwyr yn hoffi clywed mwy am y broses o recordio, yr hyn sy’n digwydd “y tu ôl i’r llenni” mewn gigs, sgyrsiau rhwng bandiau. Ystyriwch y pethau ydych chi’n eu cymryd yn ganiataol sy’n ddiddorol i bobl eraill.

(Mae onestrwydd hefyd yn golygu bod yn atebol am gamgymeriadau a gwendidau dynol – dod yn ôl at y llais dynol eto.)

Mae hyn yn arferol erbyn hyn. Mae’n anghyffredin cael artist fel Kate Bush sy’n mynnu bod yn ddirgelwch llwyr. Peidiwch â defnyddio hyn fel esgus rhag peidio â bod yn agored. Sut y bydd pobl yn eich darganfod?

Pwyntiau cyffredinol am ddiwylliannau

Mae pob cwmni yn gwmni cyfryngau. Bydd y cwmnïau sy’n amyneddgar ac yn hyblyg ac sy’n rhannu yn manteisio ar hyn. Mae’n bosibl inni gael ein cyfryngau ein hunain sy’n sylfaenol wahanol i ‘sianeli’ cyfryngau traddodiadol. Nid yw cyfryngau cymdeithasol o anghenraid yn cymryd lle cyfryngau traddodiadol – ond mae cyfryngau cymdeithasol yn rhyngweithiol, yn cwmpasu mwy o ‘gilfachau’. Maen nhw’n fwy amrywiol.

Fel cwmnïau cerddoriaeth, mae gennym y rhyddid i ryddhau cyfran fawr o gynnwys diddorol. Mae ffyrdd o wneud hyn heb gythruddo pobl fel y gwna cyfryngau traddodiadol weithiau wrth roi gormod o sylw i lansiad albym bwysig (e.e. U2). Er enghraifft gallwch bostio 100 fideo i YouTube. Gall pobl ffiltro i gadw’r hyn maen nhw’n ei hoffi. Darllenwch “The Long Tail” gan Chris Anderson.

Mae cyfryngau traddodiadol â’u holl fryd ar ddyddiadau rhyddhau a phethau cyfredol. Mae marchnata cerddoriaeth yn ymateb i hyn. Ond arlein nid yw hyn yn bodoli. Edrychwch ar eich ôl-gatalog.

Cipolwg sydyn ar rai technolegau

Mae’r rhain mewn adrannau eang gydag enghreifftiau. Mae rhai yn gorgyffwrdd ac mae llawer o wasanaethau hybrid.

Nid oedd yn bosibl inni drafod popeth yn yr amser cyfyngedig, felly siaradais am y technolegau a’r gwasanaethau a oedd fwyaf perthnasol i gwmni cerddoriaeth.

Platfformau fideo

YouTube – y platform rhannu fideos diffiniol, mae edmygwyr yno – defnyddiwch ef!

Vimeo – mae’r ansawdd yn well ond nid oes cymaint o ddefnyddwyr yn chwilio yma

Qik – ffrydio fideo yn fyw, e.e. ar gyfer cyfweld band neu ffrydio o gig

Fel arfer mae’n syniad da gwneud eich fideos yn fewnosodadwy. Drwy wneud hyn bydd pobl yn gallu eu postio ar eu blogiau a’u safleoedd gwe eu hunain, gan gynyddu nifer posibl y bobl sy’n eu gwylio. Nid yw Universal Music Group yn caniatáu hyn gyda’u fideos, am ryw reswm dirgel.

Safleoedd rhwydweithio cymdeithasol

Facebook – gall tudalennau edmygwyr fod yn dda os byddant yn cael eu cynnal. Gallwch dynnu eich porthiant RSS o newyddion ond dylech osgoi gormod o awtomatiaeth. Eto, mae pobl yn hoffi rhyngweithio â phobl. Yn gyffredinol, mae tudalen Facebook neu unrhyw bresenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol yn addewid y byddwch chi ar gael. (Dyma pam y dylech chi ateb e-byst gan edmygwyr.) Cofiwch fod yn ymwybodol o’r ‘wal derfyn’ – ni allwch fynd â’ch edmygwyr Facebook i unrhyw le arall yn hawdd iawn. Facebook sy’n rheoli – rheoli’r profiad, rheoli eich tudalennau a rheoli eich edmygwyr. (Cefais fy ngwahardd o Facebook yn ddiweddar am geisio arbrofi. Gallai hynny ddigwydd i chithau. Gadawsant i mi ddychwelyd fodd bynnag.)

Ning – pobl yn creu eu rhwydweithiau cymdeithasol eu hunain. Mae’n cynnig mwy o addasiad na Facebook. Nid yw creu rhwydwaith gymdeithasol yn rhywbeth y mae rhywun yn ei wneud bob dydd – ond mae’n ddefnyddiol pan ydych eisiau cael cymuned bendant gyda’i URL ei hun. Mae Americymru yn enghraifft o gymuned ar Ning y gallwch ymuno â hi i drafod materion Cymreig, gan gynnwys cerddoriaeth. http://americymru.ning.com

Myspace – mae gwerth yn dal i fod mewn cael cyfrif Myspace fel band neu label. I hyrwyddwyr gigs ac asiantiaid gall hwn fod y lle diffiniol i glywed eich cerddoriaeth. Gofalwch fod gennych y gerddoriaeth, y ffotograffau a dyddiadau’r gigs diweddaraf yno. Fel arall, byddwch yn ofalus faint o amser ydych chi’n ei dreulio arno. Bydd hyn yn dibynnu ar ba fath o gerddoriaeth ydych chi’n gweithio. Mae’n cynhyrchu llawer o spam.

Twitter – Synhwyrais rywfaint o amheuaeth ynglyn â’r un yma, o bosibl oherwydd cyhoeddusrwydd y cyfryngau a’r ffaith fod hwn yn cael ei gam-gynrychioli. Os ydych yn delio â cherddoriaeth ardderchog, yna bydd pobl yn eich trafod ar Twitter (a lleoedd eraill) pa un ai oes gennych gyfrif neu beidio. Ceisiwch chwilio. http://twitter.com. Mae’n hybrid blogio a rhwydwaith gymdeithasol, a elwir yn aml yn microblogio oherwydd mae pob neges yn 140 llythyren neu lai. Mae’n cynnwys mynediad ffôn symudol. Yn debyg i’r rhan fwyaf o rwydweithiau cymdeithasol, mae unrhyw fath o farchnata digywilydd yn diflasu pobl. Beth am roi cynnig arno eich hunan? Mae’r we yn hynod o arbrofol. Os gwelwch ryw gyhoeddusrwydd, byddwch yn chwilfrydig ac ewch yno i benderfynu drosoch eich hun.
Mae Twitter yn ardderchog i fonitro newyddion cerddoriaeth a newyddion cyfryngau cymdeithasol. Mae hefyd o bosibl yn beth da er mwyn dylanwadu, os ydych yn ddigon diddorol.

Platfformau blogio un-pwrpas

Nid yw blog o anghenraid yn ddyddiadur! Gwefan wedi ei threfnu wrth amser. I ddweud y gwir mae’n gyfrwng hynod o greadigol.

Mae blog yn dalfyriad o’r geiriau web log.

WordPress – hwn yw fy ffefryn i. Mae’n ffynhonnell agored felly gallwch ofyn i’ch arbenigwr gwe lawrlwytho’r côd a’i letya eich hunan, ar eich enw parth eich hunan. Mae addasiad diddiwedd yn bosibl o ran cynllun a nodweddion. Erbyn hyn mae’n cael ei ddefnyddio gan lawer o gwmnïau gan gynnwys y Telegraph ar eu system sylwadau a Number10. Ewch i http://wordpress.com i gael y fersiwn letya hawdd neu i http://wordpress.org i gael y côd (os ydych yn adnabod rhywun technegol a all ei osod ar eich gwasanaeth lletya eich hun)

Blogger – wedi bodoli ers amser ond o bosibl ychydig yn hen ffasiwn erbyn hyn, addasiad cyfyngedig

Tumblr – tebycach i lyfr lloffion blogio, e.e. canwr The Decemberists yn rhannu ei ddiddordebau (nid dim ond ei gerddoriaeth ei hun) http://colinmeloy.tumblr.com

Posterous – blog hynod o syml ar gyfer postiadau bychain, gwerth cael cipolwg arno

Mae llawer mwy yn bodoli. Yn dechnegol mae’n hawdd cychwyn blog ond gall gymryd amser i’w feistroli a’i gael i dyfu’n rhywbeth o werth. Os hoffech wybod pa mor hawdd yw cychwyn blog dyma arbrawf difyr: anfonwch e-bost i post@posterous.com a chewch e-bost yn ôl yn rhoi gwybod ichi am eich blog newydd.

Amrywiol

Soundcloud – platfform awdio (dod yn boblogaidd ymhlith cwmnïau cerddoriaeth ac artistiaid, fel ateb arall yn lle cryno ddisgiau enghreifftiol a hyrwyddol)

Flickr – rhannu ffotograffau a thrafod

Slideshare – sleidiau

Last.FM – gorsaf radio ag argymhellion cerddorol, a chanddi gymuned o edmygwyr cerddoriaeth craidd caled

RSS

Mae RSS yn ffordd o dynnu cynnwys o wefan. Un cymhwysiad hynod o ddefnyddiol yw sefydlu darllenydd porthiant a thanysgrifio i flogiau a safleoedd newyddion ydych eisiau eu dilyn. Yn hytrach nag ymweld â safle1, safle 2, safle3 â llaw, rydych yn awtomeiddio’r broses hon.

Rwyf yn gweld hwn fel papur newydd wedi ei addasu yr ydych yn ei lunio eich hun.

Mae fy un i yn cynnwys cannoedd o danysgrifiadau yr wyf yn eu sganio. Petawn i’n cael y dewis, byddwn i bob amser yn tanysgrifio i RSS yn hytrach na dewis cylchlythyr e-bost. Rwyf yn defnyddio e-bost er mwyn gweithio ac yn defnyddio fy narllenydd porthiant yn union fel fy mhapur newydd – pan yw hi’n amser paned.

Mae Google Reader yn enghraifft boblogaidd o ddarllenydd porthiant. http://www.google.com/reader

Gallwch hefyd danysgrifio i chwilio am borthiannau, e.e. ar gyfer eich enw chi ac enwau eich bandiau! Mae llawer o safleoedd yn cynnig porthiannau chwilio. Tair enghraifft yn unig yw YouTube, Twitter, Google Blogsearch. Peidiwch â bod ar ei hôl hi os bydd pobl yn siarad amdanoch.

Weithiau mae safleoedd yn cynnig porthiannau Atom. Yma, mae fformat y ffeil ychydig yn wahanol ond yn union yr un fath yn ymarferol.

Ni fuom yn trafod

Gwasanaethau symudol, gwasanaethau lleoliad-seiliedig, llyfrnodi cymdeithasol (e.e. Delicious), ffrydiau gweithgaredd, systemau sylwadau (e.e. Disqus), wikis, “cynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr”, dogfennau cydweithiol (e.e. Google Docs), APIs

Mewn geiriau eraill, mae technolegau cyfryngau cymdeithasol yn amrywiol iawn. Mae llawer o gwmnïau yn ceisio lansio eu gwasanaethau eu hunain.

Cwestiynau gan gwmnïau cerddoriaeth

Yma rwyf wedi ceisio ailgynhyrchu cwestiynau mor gywir ag y gallwn. Roedd fy atebion yn llawer mwy manwl. Y tro nesaf rwyf yn ystyried recordio pethau!

Y tro hwn, yn unol â rheol Chatham House, byddaf yn dweud beth a ddywedwyd ond nid yn datgelu enw pwy a’u dywedodd.

Mae’r ddogfen hon arlein ar http://nativehq.com felly mae croeso ichi roi sylwadau yno.

Cwestiwn: beth yw’r gwahaniaeth rhwng y gwahanol blatfformau blogio? Beth yw’r gwahaniaeth rhwng, dyweder, WordPress a Myspace? Mae gen i flog eisoes ar Myspace. Pam fyddwn i angen blog?

Mae’r gwahanol blatfformau blogio yn ddarparwyr gwasanaeth felly mae’n fater o ddewisiadau a nodweddion personol.

Cafodd Myspace ei ysbrydoli gan blatfformau blogio ar gyfer ei nodwedd blogio ei hun. Os yw Myspace yn gweithio i chi a’ch edmygwyr ar gyfer eich math chi o gerddoriaeth, yna wrth gwrs, daliwch ati ac ailaseswch yn y dyfodol.

Byddwn yn dweud nad yw pawb yn defnyddio Myspace, felly byddwch yn colli pobl. Gyda WordPress (sef fy ffefryn personol i, yn arbennig pan yw’n cael ei letya ar eich parth personol), byddai eich blog yn llawer mwy addasadwy ym mhob ffordd, nid yn unig o ran cynllun ond o ran nodweddion yn ogystal – ac yn bwysig byddai hefyd yn fwy gweladwy (mae’n debyg). Hefyd, byddai eich blog chi yn debygol o fod yn llai ymatebol i ffasiynau rhwydweithiau cymdeithasol, gan fod rhai defnyddwyr wedi gadael Myspace. Efallai y byddai’n syniad gwneud blog a chopïo’r postiadau perthnasol i Myspace, i bobl sy’n treulio amser yno.

Cwestiwn: beth am y fydryddiaeth sy’n gysylltiedig â chyfrif ffrindiau a’r niferoedd o weithiau mae pob trac yn cael ei chwarae ar Myspace? Gellir eu ‘gemio’/hybu gyda meddalwedd arbennig.

Dylai’r bobl sy’n pryderu ynghylchy ffigurau hyn wybod eu bod yn bosibl eu gemio. Felly nid oes gwir werth mewn gwneud hyn. Yna mae hyn yn ôl-danio ar y twyllwyr, neu bobl sy’n anwybyddu’r ffigurau yn gyfan gwbl.

(Yna dywedodd y sawl a ofynnodd y cwestiwn fod newyddiadurwyr yn penderfynu a ddylid defnyddio’r artistiaid ar sail niferoedd ffug. Nid wyf yn gwybod ai yw hyn yn parhau i fod yn wir.)

Efallai ei bod yn werth cael nifer onest ond isel o ‘ddarllediadau’ os yw eich cerddoriaeth newydd gael ei llwytho i fyny. Gall pethau nad ydynt yn cael gormod o sylw weithio!

Cwestiwn: yn yr hen ddyddiau byddem yn chwilio drwy recordiau finyl. Gallai bandiau greu cymuned yn eu hardal leol. Nawr mae cymaint o gystadleuaeth gan fandiau eraill ledled y byd. Ai cleddyf dau finiog yw hyn?

Ydi mae’n gleddyf dau finiog gan fod cyfnodau canolbwyntio pobl yn gyfyngedig. Disgrifiwyd ‘arlein’ fel attention economy. Mae’n bosibl i bobl gyrchu pob math o bethau, nid cerddoriaeth yn unig. Felly mae’n rhaid i’ch cerddoriaeth fod yn dda wrth gwrs.

Y fantais, ar y llaw arall, yw ei bod o bosibl yn haws canfod cynulleidfaoedd rhyngwladol megis yn Japan ac America – lle mae galw mawr yn ôl pob tebyg am gerddoriaeth o Gymru!

Rhoddodd rywun yr enghraifft o fargen drwyddedu lwyddiannus ar gyfer ymgyrch hysbysebu mewn maes arall. (Credaf mai’r awgrym yma oedd bod hyn wedi ei gyflawni diolch i arlein).

Cwestiwn: beth am ansawdd? Mae cymaint o sothach arlein.

Byddai hyn yn destun dadl dda mewn tafarn. Yn bersonol rwyf yn meddwl fod sothach wedi bodoli erioed, ond ei fod wedi ei ddosbarthu’n fwy cyfartal yn yr achos hwn.

Yr hyn sy’n bwysig yw cael ffilteri da – pobl a ffynonellau ydych chi’n ymddiried ynddynt.

Ac yn achos cwmnïau cerddoriaeth sy’n chwilio am artistiaid i weithio â hwy, mae gan Geoff Travis, Rough Trade hen ddyfyniad sy’n dal yn berthnasol: “gweithiwch gydag athrylith bob amser”. Ni ellir dadlau â hynny.

Cwestiwn: beth yw eich barn chi am Spotify?

Mae Spotify yn wasanaeth ffrydio cerddoriaeth. Rwyf wrth fy modd gydag ef. Mae’n cynnwys hysbysebion ond ymddengys bod eu model yn seiliedig ar danysgrifiadau taledig. Pwrpas yr hysbysebion mae’n debyg yw cythruddo edmygwyr cerddoriaeth fel eu bod yn tanysgrifio! Nid wyf yn mynd i argymell Spotify i bob artist a label ond mae llawer o bobl yn ei hoffi. Fel gydag unrhyw fargen, trafodwch hi gyda’ch dosbarthwr digidol ac edrychwch ar y ffigurau. Ar y cyfan gallai gwasanaethau tanysgrifio fod yn ffordd arall o werthu copïau o albymau, e.e. eMusic, Nokia Comes With Music. (Sylw ynglyn â allai rhywun sefydlu rhwydwaith fewnol i gael cerddoriaeth Gymreig ar wasanaethau tanysgrifio neu gael gwasanaeth tanysgrifio Cymreig. Sylwadau eraill y tu allan i gwmpas ein trafodaeth.)

(Sylw yn gofyn a yw’n niweidio refeniw arall. Roedd rhywun yn edrych ar y posibilrwydd o ryddhau un trac yn hytrach nag albym gyfan.) Allaf i ddim ateb hyn’na i chi. Gallai fod yn ‘ganibaleiddio’ neu gallai fod yn “arian wedi ei ddarganfod”, yn dibynnu ar yr hyn yr ydych yn ei wneud. Mae’n benderfyniad busnes yr ydych, unwaith eto, yn ei wneud yn seiliedig ar gyngor dosbarthydd digidol a gwybodaeth o rywle arall.

Mae llawer o drafodaethau arlein ar refeniw am gynnwys, e.e. http://paidcontent.co.uk – Rwyf yma i ddweud wrthych y dylech danysgrifio i RSS a bod yn graff!

Cwestiwn: yn gynharach gwnaethoch grybwyll adolygiad The Guardian o fand – sy’n ddiddorol

Ie, roeddwn yn gwybod am hynny gan fod rhywun wedi postio cyswllt ar Twitter!

(Cawsom drafodaeth wedyn am werth cymharol adolygiadau papur newydd a blogiau.) Rydw i’n credu os ydych chi’n dda ac os oes gennych PR da yna mae’n bosibl ichi gael, dyweder, adolygiad gan y Guardian i bob albym neu ar gyfer gig amlwg. Yn sicr nid wyf yn dibrisio gwerth sylw gan bapurau newydd wrth siarad am gyfryngau cymdeithasol. Cyn belled ag y mae eich ymdrechion chi yn y cwestiwn, nid oes unrhyw gystadleuaeth rhwng y ddau.

Mae gwerth potensial ymrwymiad cyfryngau cymdeithasol da yn tyfu.

Cyfeiriadau

Diffiniad cyfryngau cymdeithasol – mae hwn yn ddyfyniad heb ei briodoli a gymerwyd o Wikipedia ond sy’n gweithio’n ddigon da.

Rhai dyfyniadau eraill (mewn llythrennau italig) wedi eu cymryd o What The F**k is Social Media gan Marta Kagen
http://www.slideshare.net/mzkagan/what-the-fk-social-media

Roedd y logos yn eiddo i’w cwmnïau priodol.

Trwydded

Diogelir y nodiadau uchod gan Creative Commons Attribution-Share Alike 3.0 Unported Licence.

Os ydych eisiau eu rhannu, gweler yr amodau yn
http://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0/