Strategaeth cyfryngau cymdeithasol

Rydyn ni’n datblygu eich strategaeth cyfryngau cymdeithasol i wasanaethu amcanion eich sefydliad ac er mwyn sicrhau eich bod chi’n manteisio ar gyfleoedd newydd.

Mae dulliau galluog ar gyfer strategaethau cyfryngau cymdeithasol yn tynnu data, dadansoddiad, technoleg a chyd-destun at ei gilydd gyda chreadigrwydd, gweledigaeth ac ysbrydoliaeth

Mae strategaethau cyfryngau cymdeithasol deallus yn ymddangos wrth i ddata, dadansoddiad, technoleg a chyd-destun gwrdd â chreadigrwydd, gweledigaeth ac ysbrydoliaeth.

 

Yn anffodus mae rhai pobl yn mabwysiadu pob tegan digidol newydd heb ystyriaeth ddofn o gynllunio a rheolaeth ddoeth o adnoddau. Yn sicr, mae cyfryngau cymdeithasol yn haeddu defnydd sy’n wahanol i sianeli ar gyfryngau eraill. Gallwn eich helpu i ddeall y tirlun cyfryngol newydd, ei heriau a’i gyfleoedd.

Er mwyn dechrau datblygu eich strategaeth mae’n rhaid i ni ddeall eich amcanion, eich modelau busnes a’ch pobl. Rydyn ni’n dadansoddi eich gweithgareddau fel y maent i weld ble rydych arni, pwy sy’n rhan o’ch cymuned a sut gallwn eich helpu.

Rydyn ni’n ystyried sut ydych chi’n monitro a chyfranogi mewn sgyrsiau ar gyfryngau cymdeithasol a beth ydy eich strategaeth cyfathrebu yng nghyd-destun eich amcanion. Rydyn ni’n edrych at eich rhwydweithiau, deall pwy sydd yna a chwilio am gyfleoedd gyda’ch cwsmeriaid, staff, darparwyr a rhwydweithiau newydd.

Rydyn ni’n edrych ar eich capasiti i gyfranogi ar gyfryngau cymdeithasol, eich hunaniaeth brandio, lleisiau, cynnwys a sgyrsiau. Rydyn ni’n eich helpu i ddatblygu gweledigaeth gyson a deall yr adnoddau sydd eu hangen.

Rydyn ni’n adeiladu proses ar gyfer gweithredu gyda chi, archwilio opsiynau a’ch helpu i benderfynu beth sydd angen ei wneud nesaf. Rydych chi’n penderfynu sut y gallwn ni eich helpu gydag ymchwil, hyfforddiant, gweithdai creadigol, dewisiadau platfform, cynhyrchu cynnwys, cyflogi a newid o fewn y sefydliad.

Drwy drafodaethau gyda ni gallwch ddatblygu strategaethau ar gyfer ymgyrchoedd a rhwydweithiau cyfathrebu sy’n defnyddio’r teclynnau addas i bwrpasau clir. Rydyn ni’n edrych ar adnoddau, polisi, mesur llwyddiant a goblygiadau hirdymor y ffordd rydych chi’n gweithio a chyfathrebu.

Os ydych chi eisiau trafod eich gwaith gyda ni, cysylltwch – hoffem siarad gyda chi. Rydyn ni’n hapus i glywed gan asiantaethau eraill sydd angen strategaeth cyfryngau cymdeithasol ar gyfer eu prosiectau.

Delwedd gan Kenteegardin on Flickr (Creative Commons)