Craffu ar y Cyfryngau Cymdeithasol ym maes y Celfyddydau 2013-2014

English version

Noder: mae’r rhaglen hon ar gau i geisiadau bellach.

y-bont-torf-400Mae potensial gan y cyfryngau cymdeithasol i newid y posibiliadau i sefydliadau celfyddydol i gysylltu gyda chynulleidfaoedd cyfredol a newydd – os caiff ei wneud yn iawn. Arferion da yn y cyd-destun celfyddydau penodol yw’r her. Mae hynny yn wir i sefydliadau celfyddydol bach sydd â gallu cyfyngedig a sydd heb berson penodol gyda’r sgiliau i arwain.

Bydd y rhaglen ddatblygu hon yn cefnogi pum sefydliad celfyddydol sy’n gweithio ar draws ffurfiau celfyddydol, iaith a daearyddiaeth yng Nghymru, i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol yn eu sefydliadau. Dros gyfnod o naw mis, bydd y pum sefydliad yn gweithio gyda NativeHQ, cwmni sydd yn darparu cefnogaeth bwrpasol mewn defnydd o rwydweithiau cyfathrebu ar-lein. Bydd pob sefydliad celfyddydol yn gweithio gyda NativeHQ mewn sesiynau misol i ddatblygu a dilyn agenda bwrpasol i wella’u defnydd o gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys strategaeth, hyfforddiant, twf rhwydwaith, ymgyrchoedd unigol, hysbysebu, cynhyrchu cyfryngau digidol, monitro a hwyluso.

Bydd y rhaglen hon yn cynnwys elfen o ymchwil a datblygu a bydd yn helpu Cyngor Celfyddydau Cymru i ddeall anghenion sefydliadau yn y sector yn y maes newydd hwn.

Wedi’i gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, bydd NativeHQ yn darparu’r rhaglen o’r gweithgareddau canlynol:

  • Digwyddiad rhwydweithio i sefydliadau sydd yn cymryd rhan yn ystod Cynhadledd Cyngor Celfyddydau Cymru ym mis Hydref 2013
  • 8 x sesiwn tair awr gyda NativeHQ dros gyfnod o naw mis rhwng mis Hydref 2013 a mis Mehefin 2014
  • Rhwng pob sesiwn, bydd pob sefydliad celfyddydol a NativeHQ yn cytuno agenda ar gyfer y sesiwn nesaf a thu hwnt
  • Caiff pob sefydliad gyfrif ar blatfform dadansoddeg sydd yn monitro gweithgaredd dros gyfrifon cyfryngau cymdeithasol
  • Dau ddigwyddiad rhwydweithio a rhannu i’r pum sefydliad sydd yn cymryd rhan

Beth rydym yn ei ddisgwyl gennych chi:

  • Brwdfrydedd o fewn eich sefydliad am botensial defnyddio rhwydweithiau digidol i ddatblygu cynulleidfa
  • Ymrwymiad ariannol o ddim llai na £200, i’w fuddsoddi mewn hysbysebu cyfryngau cymdeithasol/ar-lein i gefnogi datblygu cynulleidfa yn ystod y rhaglen
  • Tair awr pob mis er mwyn i staff gyfarfod â NativeHQ ac ymrwymiad i fynychu’r digwyddiad cychwynnol a dwy sesiwn rannu
  • Agwedd agored, drwyadl, arbrofol i ddysgu
  • Person penodol i arwain y prosiect o fewn eich sefydliad
  • Parodrwydd i gyfranogi mewn nifer cyfyngedig o weithgareddau ymchwil a datblygu a gwerthuso i helpu dysgu ar y rhaglen

Cymhwyster

  • Mae’r rhaglen yn cefnogi sefydliadau newydd a sefydledig.
  • Mae’n rhaid i geisiadau ddod gan sefydliad celfyddydol yng Nghymru
  • Byddwn ni’n fodlon gweithio gyda sefydliadau gyda dim ond ychydig neu ddim profiad o gyfryngau cymdeithasol
  • Rydym ni’n chwilio am bortffolio amrywiol o ran maint y sefydliadau, y ffurfiau ar gelfyddyd, y ddaearyddiaeth a’r iaith.

Sefydliadau partner

NativeHQ

Partneriaeth ymgynghoriaeth yw NativeHQ sydd yn arbenigo yn cyfathrebu digidol ar draws rhwydweithiau anffurfiol. Maent wedi arloesi yn nefnydd o gyfryngau cymdeithasol mewn sefydliadau celfyddydol ac wedi gweithio gyda National Theatre Wales a Chanolfan Celfyddydau Battersea i ddatblygu cymunedau ar-lein, yn ogystal a chynhyrchiadau theatr fel The Passion gan National Theatre Wales ac Y Bont gan Theatr Genedlaethol Cymru. Ennillodd NativeHQ y wobr Beirniaid Theatr Cymru am ddefnydd gorau o gynnwys digidol/ar-lein am ei waith ar The Radicalisation of Bradley Manning gan National Theatre Wales. Mae e’n galluogi amrywiaeth o sefydliadau yng Nghymru i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol yn effeithiol trwy darparu gwasanaethau cefnogaeth pwrpasol.
nativehq.com

Cyngor Celfyddydau Cymru

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gyfrifol am noddi a datblygu’r Celfyddydau yng Nghymru. Elusen annibynnol yw Cyngor Celfyddydau Cymru a sefydlwyd ym 1994. Penodir ei aelodau gan Weinidog Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru. Llywodraeth Cymru yw eu prif noddwr. Maent hefyd yn dosbarthu arian y Loteri Genedlaethol gan godi arian ychwanegol o amrywiaeth o ffynonellau sector preifat a chyhoeddus. Gan weithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, gall Cyngor Celfyddydau Cymru ddangos sut y mae’r celfyddydau o gymorth i gyflawni uchelgeisiau polisi’r Llywodraeth.
www.celfcymru.org.uk

Amserlen

Lansio rhaglen a derbyn ceisiadau: 31ain Gorffennaf 2013
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm, 20fed mis Medi 2013
Datgan ceisiadau llwyddiannus: 30ain mis Medi 2013
Sesiynau yn dechrau: mis Hydref 2013

Digwyddiadau rhaglen

  • Cwrdd yng nghynhadledd Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Cwrdd yng nghynhadledd Cymdeithas Marchnata’r Celfyddydau (i’w gadarnhau) neu ddigwyddiad arall

Meini prawf asesu

  • Datblygiad – fydd y cyfle yn cyfrannu at arferion y sefydliad yn y tymor canolig i hir dymor?
  • Addasrwydd – ydy’r cyfle yn addas i’r uchelgais datblygu’r sefydliad yn y tymor canolig i hir dymor?
  • Ymrwymiad – ydy’r sefydliad yn dangos ymrwymiad i ddatblygiad ei arfer gyda chyfryngau cymdeithasol a digidol ac i’r rhaglen?
  • Potensial – pa mor dda y gall arfer artistig ac adnoddau dynol a thechnolegol y sefydliad gyfrannu at y potensial i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol er mwyn datblygu cynulleidfaoedd?

Cysylltiadau

Os oes cwestiynau gyda chi, cysylltwch â:

Noder: mae’r rhaglen hon ar gau i geisiadau bellach.