Ar Waith Ar Daith: celfyddyd ddigidol NativeHQ ar gyfer Canolfan Mileniwm Cymru #Awen2015

bws-awen-wrecsam-bus-wrexham-1000

Yn ystod Awst 2015 dathlodd Canolfan Mileniwm Cymru ei ddegfed pen-blwydd gyda chymorth Walk the Plank, NativeHQ a chyfranwyr eraill.

Fel preliwd i’r sioe gyhoeddus ym Mae Caerdydd ar 12 Medi, anfonwyd y Bws Awen ar daith epig o Gymru i gwrdd â cherddorion, beirdd, artistiaid gweledol, actorion a pherfformwyr talentog eraill.

Roedd aelodau cyhoedd a oedd yn cerdded trwy gyntedd Canolfan Mileniwm Cymru ym mis Awst yn cael eu swyno gan berfformiadau amrywiol – yn deillio o’r mwg a hylif y Pair Awen.

pair-awen-cauldron-inspiration2

O bryd i’w gilydd byddai hi’n syndod iddynt gynnal sgwrs gyda rhith o rywun yn rhywle arall yng Nghymru!

Cafodd dros gant o fideos eu postio ar y we hefyd. Detholiad bach yw’r fideos yn y cofnod hwn.

Ewch i’r map ar wefan Ar Waith Ar Daith i fwynhau rhagor o fideos gyda pherfformwyr, artistiaid ac eraill, neu chwiliwch am yr hashnod #Awen2015.

Rydym yn bles iawn fod y map ar y wefan, lle gallwch bori’r daith a gwylio’r fideos mewn unrhyw leoliad. Er enghraifft, mae lleoliad taith Eisteddfod Genedlaethol yn cynnwys perfformiadau gan Gwyneth Glyn, Benjamin Zephaniah, Plu, Band Pres Llareggub, Guto Dafydd a llawer eraill. Cafodd y wefan ddwyieithog ei chreu gan ein ffrindiau a chydweithwyr Proper Design.

Byddaf yn ymhelaethu ar y gwaith yn fanwl, i’r rhai sy’n chwilfrydig.

Bron i flwyddyn yn ôl cafodd NativeHQ ei gomisiynu fel artist digidol ar brosiect Ar Waith Ar Daith.

Pan mae dylunydd goleuo, dyweder, yn cael ei gomisiynu/chomisiynu ar gyfer sioe theatr mae’r arferion a disgwyliadau yn weddol amlwg fel arfer – ond nid felly mewn gwaith digidol.

Ar ôl i gwmni digwyddiadau awyr agored Walk the Plank ein comisiynu ar ran Canolfan Mileniwm Cymru, roeddem yn cyfaddef nad oeddem yn wir yn gwybod ystyr y teitl ‘artist digidol’. Efallai roedden nhw yn meddwl taw jôc oedd hi.

ar-waith-ar-daith-map-taith-gyflawn

O’n profiad o gydweithrediadau theatrig, rydym yn meddwl fod hi’n helpu i fod yn benagored am ein cyfranogiad, tra ein bod yn ansicr am y posibiliadau ac union naws y prosiect. Ar hyn o bryd nid oes templed ar gyfer rôl y cyfryngau digidol yn yr agwedd greadigol mewn prosiect o’r fath, yn wahanol i’r golau ac elfennau traddodiadol eraill. Yn syml, dydyn ni ddim yn gwybod os a sut fydd y cyfryngau digidol yn cael eu defnyddio yn greadigol. Rydym yn meddwl tu hwnt i werthiannau a chyhoeddusrwydd y sioe. Felly roedd y cyfnod cychwynnol o waith am ddeall y stori ac amcanion y prosiect – ac yna sgopio platfformau posibil, syniadau cynnwys, personél, caledwedd, meddalwedd, cyllidebau ac amserlenni.

O’r dechrau roeddem yn gwybod y byddai’r dathliad terfynol yn seiliedig ar stori Ceridwen, ei phair ac awen – y cyfeirir atynt yn y gerdd Gwyneth Lewis ar wyneb Canolfan Mileniwm Cymru.

Daeth yn amlwg bod platfformau cyfryngau digidol a’r syniad o daith bws yn cynnig cyfleoedd i’r Ganolfan gael prosiect Cymru gyfan, i weithio gydag artistiaid amrywiol ble bynnag maent yn byw, ac yn mynegi dyhead y ganolfan i arddangos y gorau o Gymru i’r byd.

Roeddem yn bwriadu cael effaith parhaol trwy’r gwaith, i gysylltu artistiaid – i’w gilydd ac i’w ffans. Byddai artistiaid eisiau casglu cefnogwyr ar ôl y daith, ystyried gigs a pherfformiadau yn y dyfodol, gwerthu gweithiau celf, rhyddhau cerddoriaeth, cynnig ariannu torfol ac yn y blaen.

Unwaith yr ysgrifennwyd a datblygwyd y cynllun, cafodd y Bws Awen ei gyfaddasu gyda llwyfan, bleindiau ffenestri, dodrefn a storfa syml, cyflenwad trydan, cegin gymedrol, a diogelwch.

Gwnaeth y tîm bws gwaith gwych o rannu’r perfformiadau drwy fideo, ffrydiau Periscope a chofnodion eraill ar y cyfryngau cymdeithasol. Daeth yn amlwg y dylid lleihau ar waith golygu fideo pe baem yn cwrdd a gymaint o artistiaid sy’n bosibl yn yr amser.

Un o’r gofynion hanfodol oedd i roi priodoledd parhaol ar y sgrin i bob artist ym mhob fideo – ynghyd â dolen i ddod yn ffan lle bo hynny’n bosibl, e.e. cyfrif Twitter yr artist neu wefan. Byddai hynny a fideo parhaus ar YouTube yn arwain at y budd mwyaf i’r artist.

Roedd gan bob artist yr opsiwn o ryddhau’r fideo o dan drwydded Comin Creu Priodoledd-‘ShareAlike’ i annog ailddefnydd ac addasiadau. Fel arall, gallent wedi dewis opsiwn trwyddedu mwy traddodiadol i brosiect Ar Waith Ar Daith ddefnyddio’r fideo a chadw hawliau eraill.

Roedd cysylltedd yn her fawr, yn enwedig mewn rhai ardaloedd gwledig, ac er gwaethaf ymdrechion gyda dyfais di-wifr BRCK a dau gynllun data symudol roeddem yn straffaglu i lanlwytho fideos o’r holl leoliadau daith. Yn hytrach roedd rhaid i ni ddefnyddio caffis yn achlysurol a thethiau gwennol i fand eang dibynadwy gartref.

ar-waith-ar-daith-engagement-globeEnghraifft o ystadegau sgwrs Ar Waith Ar Daith oddi ar Pulsar Platform

Cawsom ystadegau defnyddiol a mewnwelediadau i sgyrsiau taith o wasanaeth Pulsar Platform am ffi – ond ar brosiectau llai gallai’r manylder a gynigir fod yn ormodol.

Ein nod oedd i greu Pair Awen go iawn ac osgoi unrhyw awgrym o gyfrifiaduron. Yn ôl yr awdur Arthur C. Clarke, ‘nid oes modd gwahaniaethu rhwng unrhyw dechnoleg sy’n digon datblygedig – a hud’, sy’n cyfleu y math o ganlyniad roeddem eisiau.

pair-awen-cauldron-inspiration1

Erbyn hyn gallaf ddatgelu bod dau gyfrifiadur o fewn y Pair Awen. Y tu mewn i’r ffrâm oedd gyfrifiadur Raspberry Pi yn gysylltiedig â synwyryddion agosrwydd, synwyryddion symudiad, ac effeithiau: niwl, goleuadau ffwrnais a seiniau. Mac Mini oedd y cyfrifiadur arall, yn creu’r delweddau o artistiaid, trwy rhestr chwarae Dropbox o fideos perfformiadol newydd, panel tywyll ac unedau niwl.

Roedd y Mac Mini hefyd yn gysylltiedig â gwe-gamera ar gyfer sgwrs fyw gyda’r tîm bws. Yn fwriadol roeddem yn cyfyngu’r dyfeisiau mewnbwn ar y pair i dim ond y synwyryddion, heb unrhyw rhyngwyneb graffigol na negeseuon ar y sgrin. Felly byddai’r sgyrsiau byw yn ymddangos yn sydyn heb rybudd, rhwng fideos diweddar.

Fel dyluniad newydd sbon o galedwedd yn aml roedd rhaid i ni ymyrryd yn uniongyrchol yn y pair i ddatrys problemau a sicrhau’r lefelau gorau o awen! Roedd modd i ni gael mynediad i’r ddau gyfrifiadur o bell, o’n ffonau os oedd angen. Roedd offer a phlatfformau meddalwedd yn cynnwys VDMX, Dropbox, WebRTC, Python, Node.js a llyfrgelloedd eraill.

canolfan-mileniwm-cymru-wales-millennium-centre-768

Penblwydd hapus i’r Ganolfan! Rwy’n credu ein bod wedi torri tir newydd, nid yn unig fel tîm ond yn yr ystyr artistig. Rydym yn ddiolchgar iawn i’r bobl ganlynol am eu syniadau a mewnbwn gwerthfawr.

Diolch o galon i:

  • Yr holl artistiaid a pherfformwyr a gymerodd ran – mae pob un ohonynt yn cael priodoledd yn ei fideo.
  • Liz Pugh, John Wassell, Sarah Cole a thîm Walk the Plank
  • Canolfan Mileniwm Cymru
  • Aelodau tîm gweithgar yr Awen Bws: Greg Byatt, Louise Carey, Mair Ifans, Gwennan Mair Jones, Glyn Morgan, Mike Regan, Lowri Wynn
  • Henry Widdicombe am fwcio a churadu
  • Proper Design am ddylunio graffeg, gwaith ar y pair, datblygu meddalwedd ac am y wefan
  • Sarah Edmonds am ddarlunio
  • Wild Creations am ddylunio ac adeiladu’r pair
  • Kazimier am gyfaddasu’r bws
  • John Rea am gerddoriaeth