Dylunio aml-blatfform
Dylunio ymgysylltiad cyfryngau cymdeithasol i adrodd straeon aml-blatfform
Rydym yn aml yn dod i mewn i bartneriaethau ar gyfer prosiectau sy’n cynnwys aml-blatfform o farchnata i adrodd straeon.
Rydym yn arbenigo mewn pensaernïaeth gwybodaeth, dylunio rhwydwaith, a strategaeth dechnegol ac rydym yn cynhyrchu elfennau cyfryngau cymdeithasol o brosiectau aml-blatfform, megis cynyrchiadau theatr, prosiectau celf, newyddiaduraeth dinesydd, ymgyrchoedd cymunedol a marchnata.
Mae rhai o’n prosiectau mwyaf cyffrous yn cynnwys partneriaethau gydag artistiaid creadigol gwych sy’n gwneud gwaith y maent am ei ymestyn i fannau ar-lein, ac rydym yn dylunio ymgysylltiad a rhyngweithio sydd yn frodorol i ddiwylliant ac ymddygiad ar y we. Rydym yn dod yn rhan o’r tîm creadigol ac yn wau elfennau cyfryngau cymdeithasol i mewn i’r prosiect.
Os hoffech chi siarad â ni am gymryd rhan mewn prosiect, cysylltwch â ni!