WordPress i Bawb: dethol ategion a themâu i’w cyfieithu

wordpress-i-bawb-530

English language version of this post

Mae NativeHQ a chwmni Nico yn dechrau ar brosiect mawr o’r enw WordPress i Bawb lle byddwn yn rhyddhau cydrannau defnyddiol ar gyfer system rheoli cynnwys WordPress yn Gymraeg dros gyfnod o sawl mis.

Er bod prif system WordPress ar gael yn Gymraeg ers blynyddoedd (diolch i Rhos Prys, Iwan Standley ac eraill) mae dal i fod llwythi o ategion a themâu da sydd ddim ar gael yn Gymraeg eto.

Mae cannoedd o ategion a themâu ar gyfer WordPress, a ddatblygwyd gan arbenigwyr o gwmpas y byd. Y prif gwestiwn yw, pa rai sydd fwyaf defnyddiol i reolwyr gwefannau sydd eisiau darparu cynnwys a gwasanaethau yn Gymraeg? Yn amlwg rydym yn gwybod eisoes pa rai rydym eisiau eu gweld o’n profiad ni o adeiladu a rhedeg gwefannau a hyfforddi pobl i’w defnyddio nhw.

Ond nawr rydym yn rhoi’r cyfle i chi ddylanwadu ar ein penderfyniadau ac awgrymu ategion a themâu ar gyfer y rhestr derfynol. Rydym yn gofyn yn gyhoeddus er mwyn dysgu, a hwyluso dysgu ymhlith eraill, am nodweddion WordPress defnyddiol.

Rydym yn canolbwyntio ar y pedwar math o wefan isod:

  1. blogiau newyddion lleol / papurau bro
  2. mentrau efasnach bach
  3. blogiau personol
  4. cymunedau ar-lein a rhwydweithiau cymdeithasol

Rydym yn ystyried y meini prawf isod:

  • Pwrpas
  • Perthnasedd i ddefnyddwyr Cymraeg
  • Nifer y termau
  • Dibynadwyedd
  • Poblogrwydd

Ydych chi’n rhedeg, neu’n bwriadu rhedeg, gwefan Gymraeg neu amlieithog o dan un o’r categorïau? Pa ategion a themâu yr hoffech chi eu gweld yn cael eu cyfieithu i’r Gymraeg? Pam? Gadewch sylw isod os gwelwch yn dda. Os nad ydych chi eisiau gadael sylw, gallech e-bostio carl@nativehq.com yn lle.

Byddwn ni’n rhyddhau popeth o dan drwydded GPL er mwyn cefnogi ac annog ailddefnyddio rhydd. Mae potensial y bydd wordpress.com a gwasanaethau blogio eraill yn defnyddio ein cyfieithiadau hefyd.

Nodir nad oes modd addo y byddwn ni’n derbyn eich awgrymiadau.

Cefnogir y gwaith trwy grant oddi wrth Gronfa Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg Llywodraeth Cymru.

Llun o’r crys-t WordCamp Caerdydd 2009