Swyddi eraill ar Ar Waith Ar Daith: Cynhyrchydd Cyfryngau Cymdeithasol, Fideograffydd a Gyrrwr / Rheolwr Llwyfan

Rydym yn hybysebu rhagor o swyddi o heddiw ymlaen: Cynhyrchydd Cyfryngau Cymdeithasol, Fideograffydd a Gyrrwr y Bws / Rheolwr Llwyfan.

Maent yn rhan o brosiect Ar Waith Ar Daith, ar gyfer dathliadau dengmlwyddiant Canolfan Mileniwm Cymru yn ystod haf 2015.

Dyma gyfleoedd gwych i gymryd rhan mewn prosiect cyffrous gyda chwmni Walk the Plank, NativeHQ ac eraill; taith o gwmpas Cymru i ddarganfod ysbrydoliaeth a chelfyddyd y wlad, i’w rhannu o’r Ganolfan i’r wlad a’r byd.

Plîs rhannwch y manylion gyda phobl sy’n addas am y swyddi.

Ewch i wefan Ar Waith Ar Daith am ragor o fanylion am y prosiect.