Ein model ar gyfer twf mewn busnes digidol – yn cyflwyno cydweithwyr NativeHQ

English version of this post

Rydym yn dal i hudo gan y broses o adeiladu cwmni, pum mlynedd ers i ni ddechrau.

Mae adeiladu busnes bach yn broses gymhleth a mentrus ac mae sawl cwestiwn. Un maes allweddol yw twf eich tîm: pryd ydych chi’n ehangu neu dyfu eich tîm, sut ydych chi’n dod o hyd i’r bobl iawn a pha sgiliau neu brofiadau dylech chi ddatblygu? Eleni yn NativeHQ rydym newydd ddechrau ein chweched flwyddyn ac yn ddiweddar penderfynodd i dyfu ein tîm.

Mae llawer o fodelau a chanllawiau ar gyfer tyfu y tîm mewn busnes bach. Mae yna hefyd nifer o ragdybiaethau y dylid eu cwestiynu yn rheolaidd. Ni fydd unrhyw fodel neu ddull yn addas i bob busnes, ond yr hyn sy’n hollbwysig yw beth sy’n addas i’ch gwerthoedd a diwylliant ar hyn o bryd. Rydym yn gobeithio, trwy rannu ein model o dwf tîm rydym yn dechrau yn y flwyddyn hon, efallai y byddwch yn codi rhai syniadau defnyddiol.

Mae’r model yr ydym bob amser wedi defnyddio yn NativeHQ yn un sy’n dechrau gyda chydweithio. Fel partneriaid (Carl Morris a Tom Beardshaw), rydym bob amser wedi cydweithredu gyda rhwydwaith o bobl ar sail ad hoc. Mae’r perthnasoedd hyn wedi cefnogi ein gwaith ac yn ein herio i feddwl a gweithio’n wahanol gyda chyfryngau cymdeithasol a chleientiaid. Rydym yn penderfynu cymryd y cam nesaf ac yn ffurfioli hyn trwy benodi dau gydweithredwr i ymuno â’n tîm yn ffurfiol.

Perthynasau cyswllt fel model ar gyfer twf

Gall y model cydweithredwr ar gyfer tyfu busnes cael ei adeiladu ar nifer o egwyddorion gwaith. Mae anghenion prosiect yn ei arwain, gyda strwythurau agored, cytundebau gweithio hyblyg, ac yn canolbwyntio ar gyfathrebu parhaus a chynydd mewn perthnasau ymhlith cydweithwyr.

  • Anghenion prosiect: Mae pob cydweithiwr yn berson yr ydym yn cydweithio â hwy ar sail prosiect-wrth-brosiect. Mae hyn yn dibynnu ar anghenion y prosiect, y cleient ac i ni fel arweinwyr prosiect. Pan fydd unrhyw brosiect penodol wedi dod i ben efallai na fyddwn yn gweithio gyda’n cydweithiwr am sawl wythnos. Mae hyn yn caniatáu i ni i fod yn bartner gyda’r bobl orau mewn gwahanol feysydd ar sail anghenion.
  • Strwythurau gwaith agored: Mae cydweithwyr yn rhydd i ddatblygu eu gyrfaoedd a gweithio ar brosiectau yn eu rhwydweithiau eu hunain. Mae NativeHQ yn dod i mewn ac allan o’u bywydau gwaith fel y bo’n briodol. Mae llawer mwy i rannu ar yr arferion a’r offer a ddefnyddiwn i gydweithio o bell a byddwn yn eu rhannu mewn cofnod blog yn y dyfodol.
  • Trefniadau gweithio hyblyg: Nid ydym yn cyflogi ein cydweithwyr ar gytundeb sefydlog neu gynnig taliadau fel cyflog misol, ond yn datblygu pob prosiect gyda chytundebau prosiect sy’n hyblyg i anghenion pawb. Nid oes angen adeilad mawr chwaith neu’r gorbenion cysylltiedig sy’n dod gyda chyflogi pobl, gan ddewis yn hytrach i weithio o’n swyddfeydd cartref, mannau rhwydweithio a gofodau gweithio ar draws y wlad, fel Indycube.
  • Cyfathrebu parhaus: Hyd yn oed os nad ydym yn gweithio ar brosiect byw gyda ein cydweithwyr fel arfer rydym yn cadw mewn cysylltiad â hwy i gyfnewid syniadau a gwybodaeth a dysgu mwy am y gwaith arall y maent yn wneud. Egwyddorion a rennir yn bwysig i ni yn ogystal â lleisiau a barnau amgen i finio ein meddyliau.
  • Tyfu perthynas cydweithwyr: Rydym hefyd yn tueddu i beidio â chyfweld cydweithwyr posibl, ond yn dewis cydweithiwr o bobl yr ydym wedi gweithio gyda nhw yn y gorffennol fel ffordd o ddechrau perthynas broffesiynol ac asesu os byddwn yn rhannu gwerthoedd a meddyliau tebyg am gyfryngau cymdeithasol.
    Ar gyfer y math o waith arbenigol a chymdeithasol a wnawn yn NativeHQ, rydym yn credu y bydd y berthynas cydweithiwr dod i ganlyniad llawer gwell i’n cleientiaid a chymhelliant gwell i bawb na phe baem yn cyflogi gweithwyr cyflogedig.

Yn bendant nid ydym yn dweud fod y model hwn ar gyfer pob cwmni ond rydym yn credu ei fod yn gweithio i NativeHQ yn sicr.

Y llwybr fwy traddodiadol i dwf ac ein safbwynt ni

Mae llawer o fusnesau bach sy’n bwriadu tyfu eu tîm yn meddwl am y model o adeiladu tîm o staff llawn-amser â’r ymrwymiad i’w talu bob mis, i sicrhau gwaith i lenwi eu dyddiau a’r gorbenion ychwanegol o brydles hir ar swyddfeydd ac ati.

O ystyried y gyfradd uchel o fusnesau bach nad ydynt yn cyrraedd eu chweched flwyddyn, mae’n hawdd dychmygu sut y gall NativeHQ mynd y ffordd yma pe tasen ni wedi mabwysiadu’r model mwy traddodiadol ar gyfer ein gwaith.

Yn y pen draw beth sydd o ddiddordeb i ni ydy gweithio gyda sefydliadau cleient, gweithio gyda’r bobl orau ar gyfer y prosiect wrth law er mwyn helpu ein cleientiaid i drawsnewid y ffordd y maent yn ymgysylltu â’u cymunedau digidol. Mae ein diffyg pryder am bob dim sy’n gwneud cwmni ‘traddodiadol’ megis ‘letterheads’ trwsiadus, placiau enw mewn marmor a thîm staff parhaol wedi dod yn fantais. Rydym wedi goroesi’r hinsawdd economaidd anodd, ac yn edrych at ein chweched flwyddyn mewn busnes, gyda llawer o ddysgu a chleientiaid hapus.

Ein cydweithwyr newydd

Wedi dweud hyn i gyd, hoffem ni gyhoeddi i’r byd yr ydym wedi penodi dau gydweithiwr newydd at ein tîm yn ddiweddar; Dr Kelly Page a Marc Heatley. Mae Kelly a Marc yn bobl rydym wedi adnabod ac wedi gweithio gyda nhw am amser hir ac ymhlith y gorau ar yr hyn maent yn eu gwneud.

Dr Kelly Page

Dr Kelly PageRoedd Kelly yn ddarlithydd yn Ysgol Fusnes Caerdydd, ac er ein bod yn drist bod symudodd i Chicago yn 2012 i ymgymryd â swydd newydd fel Athro Cynorthwyol yn y Coleg Columbia Chicago, rydym wedi bod mewn cyswllt ers iddi adael. Mae Kelly yn ymchwilydd rhyngrwyd profiadol iawn yn ogystal ag artist, awdur a siaradwr â meddylfryd strategol call, llawn profiad yn astudio cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithiau byd-eang.

Mae hi’n dod â’i ymchwil a meddwl strategol i’r tîm NativeHQ, a bydd yn ymuno â ni i feddwl am sut y mae’r cwmni yn datblygu, gan archwilio’r materion yr ydym yn dod ar draws drwy ein gwaith gyda chleientiaid ac yn gweithio ar brosiectau sy’n gallu elwa ar ei harbenigedd ymchwil, ei hysgrifennu a dealltwriaeth strategol. Byddem yn argymell dilyn Kelly ar Twitter, lle mae’n rhannu ei syniadau diweddaraf yn rheolaidd.

Marc Heatley

Marc HeatleyMarc yn ddylunydd gweledol a creawdwr WordPress sy’n rhedeg ei gwmni dylunio ei hun yma yng Nghaerdydd. Yn ein barn ni, fe yw’r ‘wrangler’ WordPress gorau yn y ddinas, yn ogystal â bod yn math arbennig a phrin o dylunydd gweledol sydd yn wir yn deall y we ac yn gwybod sut i adeiladu profiadau defnyddwyr gwych arno. Rydym yn gwahodd Marc yn rheolaidd ar brosiectau NativeHQ technegol sydd angen ychydig o arbenigedd ychwanegol a meddwl dylunio, er enghraifft ein gwefan mapio diweddar i Gwmni Theatr Forest Forge

Mae dealltwriaeth Marc o’r we a chyfathrebu gweledol yn wych ac sy’n cryfhau gallu technegol ein tîm, ac mae’n mwynhau heriau ychwanegol yr ydym yn cynnig iddo fe. Mae hefyd yn werth dilyn ar Twitter, lle mae e’n rhannu o’r hyn mae wedi bod yn gwrando ar yn ddiweddar, i’r fframweithiau cwl diweddaraf ar y we a driciau WordPress ac ategion ei fod wedi darganfod.

Rydym wedi diweddaru’r tudalen Ein Tîm ar ein gwefan gyda’n ychwanegiadau newydd ac yn edrych ymlaen at lawer o flynyddoedd cynhyrchiol yn gweithio gyda Kelly a Marc – croeso i NativeHQ!